Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (191)v6 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 3.
|
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon (45 munud)
|
3 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
|
Cynnig i ethol Aelodau i bwyllgorau NDM5486 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol William Graham (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Mohammad Asghar (Ceidwadwyr Cymreig).
|
4 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Adolygiad Llywodraeth Cymru o ganlyniadau TGAU Saesneg mis Ionawr 2014 (45 munud) |
5 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Cynnydd o ran Sicrhau Twf: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod yng Nghymru (30 munud) Dogfen Ategol Ymgynghori: Sicrhau Twf: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020
|
6 Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu’r Pwyllgor ar Brisio Amaethyddol) 2014 (15 munud) NDM5432 Alun Davies (Blaenau Gwent) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno, yn unol ag adran 9(6) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, a Rheol Sefydlog 30A.10, bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu’r Pwyllgor ar Brisio Amaethyddol) 2014 yn unol â’r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Chwefror 2014.
Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Chwefror 2014.
Dogfennau Ategol Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol Dogfen Esboniadol DEFRA(Saesneg yn unig) Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu’r Pwyllgor ar Brisio Amaethyddol) 2014 (Saesneg yn unig) Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
|
7 Cynnig i gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Tai (Cymru) (60 munud) NDM5479 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Tai (Cymru). Gosodwyd Bil Tai (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 18 Tachwedd 2013. Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar y Bil Tai (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 21 Mawrth 2014.
Dogfennau Ategol Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw Bil Tai (Cymru) yn rhoi sylw i'r cyflenwad tai cymdeithasol.
|
8 Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â’r Bil Tai (Cymru) (5 munud) NDM5480 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Tai (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil. |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 2 Ebrill 2014